Dros y blynyddoedd defnyddiwyd y term archaeoleg môr gyda llu o ystyron iddo ac y mae'r modd y defnyddia'r wasg boblogaidd y term yn adlewyrchu amlochredd y pwnc.
Un o ystyron croes yn Gymraeg yw "arwydd ar ffurf croes sy'n nodi ffin" ac y mae croes yn sicr yn digwydd mewn enwau lleoedd yn yr ystyr hwn.
Mae'n dilyn felly fod yn y gymdeithas hefyd werthoedd, ystyron, ac arferion sy'n is-raddol i'r system ganolog.
Rhaid gofyn, yng nghyd-destun canllawiau iaith ar gyfer gwasanaethau addysgol, beth yn union yw ystyron gwahanol y ddau air promoting a facilitating ar gyfer y Bwrdd.
Clywodd y prynwr o Groesoswallt am Oliver Thomas a'i ddarllen, nid hwyrach; a chlywodd y prynwr o Gaerfyrddin, oddi ar dafod ei dad a'i dad-cu, rai o benillion y Ficer Prichard; - ond yn eu gweithiau hwy yr oedd trefn ein lleferydd ar y brawddegau ac ystyron sobr ein byd-bob-dydd i'r geiriau.
Maent yn hyderus wrth fynd i'r afael ag amrediad o destunau o gymhlethdod cynyddol a gallant ddeall ystyron ymhlyg yn ogystal â'r arwynebol a'r amlwg.
Felly, gyda parole y mae'n rhaid dechrau astudio iaith, gyda'r arwydd ieithyddol yn cynnwys (a) y signifie:y gwrthrych a ddynodir gan yr olyniad ffonolegol, a (b) y signifiant: y syniad a sylweddolir yn la parole gan seiniau, ystyron, cyfeiriadaeth.
Fe'i ceir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, ond mae ei ystyron gwreiddiol yn anghynefin erbyn heddiw.
Diau bod yr ystyron wedi cawlio erbyn y drydedd ganrif ar ddeg pan sonia testun arbennig am 'anfon (lago) yr ard y gynnull cawl y wneithur bressych'.
O'r funud honno mae ystyron a synau a goslefau iaith ei gymdeithas yn ei amgylchynu.
Ym mhob cymdeithas, ceir system ganolog o werthoedd, ystyron, ac arferion sy'n dominyddu.