`Gyda phleser,' ebe Harri, `ond i chwi fod yn gyfrifol i mi am ganpunt os digwyddiff rhwbeth iddo.' `Dim peryg,' ebe'r Yswain, ac ychwanegodd, `ond tyrd dy hun efo ni, mi fydd yn dda gen i dy weld yn y cwmni.' Diolchodd Harri iddo, a theimlai yn hynod o hapus fod ei feistr tir wedi ei wahodd i ymuno â'r boneddigion oedd yn myned ar ôl y cŵn ddydd Llun, ac ni wnaeth efe ddim arall bron hyd y dydd penodedig ond ei daclu ei hun a'i geffyl ar gyfer yr amgylchiad.
Yr oedd mab yr Yswain, Mr Ernest Griffith, a oedd wedi cael gwell addysg na'i dad, ac wedi llyncu syniadau am y dull y dylai pawb adnabod eu lle mewn cymdeithas, dipyn yn wahanol i'w dad yn ei opiniynau a'i dueddiadau.
Ond, yn groes i'w ddisgwyliad, daeth mab yr Yswain ato, gyda gwên ar ei enau, gan ddymuno bore da iddo, a chan ei annog i deimlo yn hyderus, ac ychwanegodd: `C'lynwch chi fi, Harri, pan ddaw hi'n adeg cychwyn, a mi fyddwch yn all right.
Cod dy galon, Harri; mi ddaw haul ar fryn eto.' Gwyddai Harri fod yr Yswain yn siarad ei galon, ac nad oedd yn rhagrithio.
Dywedodd y mab rywbeth wedyn yng nghlust ei dad, ac ebe'r Yswain: `Dyma ti, Harri, 'rydan ni'n mynd i dreio codi llwynog ddydd Llun; roi di fenthyg dy geffyl i Ernest am y diwrnod?'
Yr unig rai o'r helwyr a deimlai dros Harri oedd yr Yswain a'r Person.
Ar ei fynediad i'r ystafell gafaelodd yr Yswain yn ei law, ac ysgydwodd hi yn galonnog a chroesawgar, a datganodd ei ofid am ei golled, a'i lawenydd am nad oedd Harri wedi derbyn niwed, a dywedodd yn ddistaw yn ei glust: `Oni bai mod i'n gwybod fod ti wedi cael llawer o arian ar ôl dy dad, mi f'aswn i yn dy helpio di i neud y golled i fyny.
Ar ddiwedd y dydd yr oedd swper i'r helwyr yn y Bedol, ac anfonodd yr Yswain un o'i weision i'r Wernddu gyda chenadwri at Harri am iddo ddyfod i'r swper yn ddi-ffael.
Daeth Mr Jones, y Person, yno i'w weld, a thystiai nad oedd gan yr Yswain Griffith well ceffyl yn ei ystablau, ac aeth yn syth i'r Plas i ganmol anifail Harri.
Tywynnodd ar ei feddwl ei fod wedi syrthio i bwll a gloddiwyd iddo gan Ernest, fod mab yr Yswain, gyda gwên deg a gwenwyn dani, wedi ei hud-ddenu gyda'r bwriad iddo anafu ei geffyl.
Dal i ymateb i'r ornest a wneir yn y penodau sy'n dilyn, yn gyntaf trwy'r ymddiddan digrif rhwng yr Yswain a'r Person - er na chuddir pechodau y naill na'r llall, cyflwynir portreadau digon cydymdeimladol o'r ddau hyn - yna yn yr ymryson bywiog pan yw Gwen yn ceisio dysgu pader i'r Person.
Yma y cai Elisabeth gyfle i hel atgofion a breuddwydio ac i fwynhau ychydig o ryddid oddi wrth y dyletswyddau teuluol oedd wedi dod yn rhan o'i bywyd ers claddu ei thad, yr yswain Richard Games.
Efallai fod yswain yn ei ystyried ei hun yn fwy o fonheddwr yn ei dŷ yn y dref neu'r ddinas, ond yr oedd ei wreiddiau yn y wlad ar ei ystad ac, heb honno, nid oedd yn fonheddwr o gwbl.
Yn ddiatreg daeth yr Yswain a'i fab i'r Wernddu i weld y rhyfeddod.
Tramwyai yr Yswain a'r Person, a'r hen bobol pan allent, hyd y ffyrdd, ond teithiai'r gwŷr ieuainc rhyfygus bron fel yr ehed y frân yn syth ar ôl y cŵn.
`Hoho!' ebe'r Yswain, `ydi bedole fo'n arian?'
Yr oedd Mr Jones y Person, hefyd yr un mor ddiragrith yn ei gydymdeimlad, ac wrth weled yr Yswain a'r Person mor hynaws tuag at Harri, dilynodd eraill rhai na theimlent yn dda nac yn ddrwg ato eu hesiampl.
Pan glywodd yr Yswain yr hanes, teimlai yn dost dros Harri, a diflasodd gryn lawer ar bleser y dydd iddo.
Llafuriodd yswain Gwedir yn ddyfal ac yn hir ar hanes ei dylwyth a bu'n chwilota am wybodaeth ddogfennol.
Dotiai yr hen Yswain at y ceffyl, a gofynnodd i Harri faint o arian a roddodd efe amdano.
Jolly fellow oedd yr Yswain, ac ni theimlai yn wrthwynebol i un o'i denantiaid feddu ceffyl tan gamp tra na fyddai ar ôl efo'i rent.