Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysywaeth

ysywaeth

A dyna'r olwg olaf a welwyd arni.Diflannodd, ysywaeth,am byth.

Roedd Huw Gwyn wrthi'n llwgu ei hun, neu ar fin cerdded o Langefni i Gaerdydd neu rhywbeth; naill ffordd neu'r llall ro'n i'n recnio na fydda fo o gwmpas yn hir iawn a'i bod hi'n saff i mi ymaelodi -- ysywaeth...

'Ar hyn o bryd bydd y gwasanaeth yn dal i orfod cael ei gynnal o'n canolfannau galw pwrpasol sydd i gyd ysywaeth yn Lloegr.

Mae'r hanes am Gwm Rhondda yn fwy calonogol o lawer er y buwyd yn hir yn disgwyl ac yn gweithio dros ysgolion Cymraeg uno, ysywaeth.

Ysywaeth nid felly y bu.

Ysywaeth, mae'n debyg na fydd yr argraffiad presennol yn mwynhau'r un math o gylchrediad eang a chroeso cyffredinol ag a gafodd stori%au'r Greal yng Nghymru ac Ewrop yr oesoedd canol, aeth y chwedlau a roddodd gymaint o fwynhad i'n cyndadau canoloesol bellach yn faes academaidd bur.

Ond, ysywaeth, nid oedd tafodiaith y Cei yn gymeradwy iawn y tu allan i blwyf Llanllwchaearn.

Ysywaeth yn ystod y tymor hwn o'r flwyddyn, byddaf wrth fy modd yn croesi Clawdd Offa i chwilio am rai ohonynt.

Yn anffodus, ysywaeth, pallodd y brwdfrydedd ac erbyn heddiw ychydig o ddiddordeb geir mewn aredig yn y mudiad.

Ond yn ddaearyddol, ysywaeth, mae'n gamarweiniol.

Ysywaeth, y mae i fywyd hefyd ei ddwyster.

Ond, ysywaeth hefyd, Brenin Uffern ac Angau yw'r brenhinoedd: hwy'n bellach o lywodraethwyr piau'r Gymraeg.

Bellach, ysywaeth Neuadd William Aston yn Wrecsam sy'n elwa ar draddodiad a gafodd ei feithrin ar lwyfannau'r Rhos.

Ysywaeth, gyda'n bod yn medru cynnig gwasanaeth Canfod Arian (FUNDERFINDER) trwy gyfrwng rhaglen gyfrifiadur golygodd y cynnydd sylweddol yn nifer yr ymholiadau nad oedd yn bosib wedyn i ymateb i gais o fewn tri diwrnod.

Ysywaeth, flwyddyn neu ddwy ar ôl i Forgan ddod i'r fywoliaeth fe aeth yn ffrae enbyd rhyngddo ac Evan Meredith o Lantanad, twrnai ifanc yn llys Cyngor Cymru a'r Gororau yn Llwydlo ac uchelwr penna'r plwyf.

O gofio, ysywaeth, nad ar fara yn unig y bydd byw dyn, dyletswydd arnom oedd trefnu ar gyfer agwedd ysbrydol, cymdeithasol, ac adloniadol yr aelodau.

Eithriadau, ysywaeth, yw'r cwmni%au.

Ysywaeth, nid oedd i dderbyn unrhyw flaenoriaeth fyddai'n rhwystr ar lwybr un o brosiectau'r Cyngor ei hun.

Ceisiodd ddysgu rywfaint o Gyrnraeg, er na fu, ysywaeth, yn llwyddiannus iawn yn ei ymdrechion.

Mae tuedd, ysywaeth, i'r holl bynciau orbwysleisio'r dealltwriaethau llythrennol ac ad-drefniadol yn y math o gwestiynau darllen a deall a osodir ym mhob maes cwricwlaidd a chyda phlant cyffredin ac is o ran gallu yn arbennig, ar ddechrau gyrfa ysgol.

Fe laddodd Gwaeth foed dri-ar-ddeg o fleiddiaid hefyd ac mae'n siwr fod yna enw lle yn y cyffiniau yn coffa/ u'r orchest honno ar un adeg ond fe ddiflannodd pob cof amdano ysywaeth.

Ysywaeth.